Join

Y tai a'r gerddi hanesyddol gorau i ymweld â nhw yng Nghymru

Crwydrwch wlad sydd â threftadaeth ryfeddol a chefn gwlad arbennig trwy ddod yn aelod o Historic Houses

Plas Brondanw incredible topiary garden

Croeso i Gymru, gwlad sy’n llawn o rai o’r tirweddau mwyaf trawiadol y gellir eu dychmygu, gyda hanes balch ac unigryw sy’n cael ei adlewyrchu yn yr holl dai a gerddi hanesyddol. Os ydych chi’n bwriadu ymweld â Chymru, gwnewch yn siŵr eich bod yn neilltuo amser i werthfawrogi’r dreftadaeth wych hon. Isod ceir rhagor o wybodaeth neu gallwch weld map o’r holl dai a gerddi y gallwch eu gweld yma yng Nghymru.

Gogledd Cymru

Bodrhyddan Hall

Bodrhyddan Hall, Sir Ddinbych

Mae Bodrhyddan Hall yn adeilad rhestredig Gradd I ac mae wedi bod yn gartref i’r Arglwydd Langford a’i deulu ers dros 500 mlynedd. Mae wedi’i leoli mewn nifer o erwau o erddi ffurfiol hardd a choetir wedi’i adfer. Mae’r tŷ yn un o’r ychydig blastai yng Nghymru heddiw sy’n eiddo i’r teulu.

Brynbella House

Brynbella, ger Llanelwy

Mae’r gerddi’n cynnwys rhannau amrywiol fel gardd goetir, gardd furiog, tair gardd ddŵr, gardd raean (enillydd gwobr Cymdeithas Diwydiannau Tirlunio Prydain), yn ogystal â rhannau o’r ardd sydd wedi’u plannu’n ffurfiol ac yn anffurfiol.

Gwrych Castle overhead

Gwrych Castle, Clwyd

Mae Castell Gwrych yn blasty rhestredig Gradd I yng Ngogledd Cymru ac yn un o’r atyniadau mwyaf poblogaidd ym Mhrydain oherwydd iddo gynnal I’m A Celebrity… Get Me Out of Here!  am ddwy flynedd ddilynol.

Wedi’i ddylunio gan Lloyd Hesketh Bamford-Hesketh a’i adeiladu rhwng 1810 a 1822, mae Castell Gwrych yn ymgorffori delfrydau’r Mudiad Rhamantaidd sydd wedi’i osod o fewn tirwedd hardd ond eto’n hynafol ac ysbrydoledig.

OES GENNYCH CHI DDIDDORDEB? EDRYCHWCH AR EU TUDALEN YMA

SUT I YMWELD Â CHYMRU HEB GAR

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Good Journey i ganfod ffyrdd i’ch helpu i ddod o hyd i ddulliau teithio mwy cynaliadwy i leoedd arbennig. Efallai eich bod yn meddwl ei bod yn anodd dod o hyd i ffyrdd o ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i ymweld â rhai o’r tai a’r gerddi hanesyddol yn ardaloedd mwyaf gwledig Cymru, peidiwch â phoeni, mae gan Good Journey ateb. Ewch i’w gwefan i gael rhagor o wybodaeth.

..hefyd yng Ngogledd Cymru

Hartsheath front porch

Hartsheath, Sir y Fflint

Mae Hartsheath yn dŷ gwledig Gradd II* o’r 18fed a’r 19eg ganrif, wedi’i leoli mewn parc wedi’i dirweddu o’r 19eg ganrif.

Mae’r Ystafell Groeso wedi’i haddurno â thechneg trompe l’oeil gyda motiffau pîn-afal. Mae’r tŷ hefyd yn cynnwys casgliad unigryw o ddarluniau dyfrlliw Cymreig a gweithiau gan Isidor Kaufmann “Holbein Iddewig”, yn ogystal â chasgliad diddorol o ddodrefn a phorslen.

Plas Brondanw in Gwynedd, Wales

Plas Brondanw, Llanfrothen

Adeiladwyd Plas Brondanw gan deulu Clough Williams-Ellis tua 1550. Rhoddwyd y tŷ iddo gan ei dad yn 1908.

“Er mwyn Brondanw y gweithiais mor galed” ysgrifennodd, “er mwyn y lle hwn yr oeddwn yn gobeithio elwa yn y pen draw”.

Plas Cadnant Hidden Gardens in Wales

Gerddi Cudd Plas Cadnant, Ynys Môn

Disgrifir Gerddi Cudd Plas Cadnant fel un o gyfrinachau gorau Gogledd Cymru. Maent wedi’u lleoli yn ymyl y Fenai, y tu ôl i’r coed ger Porthaethwy ar Ynys Môn.

Ym 1996, prynodd y perchennog presennol Ystâd Plas Cadnant gyda’i 200 erw a dechreuodd y gwaith o adfer yr ardd a’r tiroedd hanesyddol. Ers hynny mae rhannau helaeth o’r gerddi wedi cael eu trawsnewid ac wedi cael eu hadfer i’w hen ogoniant.

De Cymru

Cornwall House

Tŷ Cernyw, Trefynwy

Tŷ Cernyw yw’r tŷ preifat olaf ym mhrif stryd siopa Trefynwy.

Mae’n dŷ tref, sy’n dyddio’n ôl i’r 17eg ganrif o leiaf. Mae ffasâd brics coch yr ardd yn arddull y Frenhines Anne, sy’n dyddio o 1752 pan oedd y tŷ yn eiddo i Henry de Bergh, asiant Dug Beaufort.

Cresselly House

Cresselly House, Sir Benfro

Yn gartref i’r teulu Allen ers 250 o flynyddoedd, mae ffasâd carreg Cresselly yn hardd a chwbl gymesur gan greu golygfa hyfryd wrth i chi agosáu at y tŷ o’r brif lôn.

O boptu’r rhan ganol tri llawr, a adeiladwyd yn 1770, mae dwy adain ddeulawr, a ychwanegwyd bron i gan mlynedd yn ddiweddarach.

Golden Grove impressive historic roof

Gelli Aur, Sir Gaerfyrddin

Ym 1804 cafodd Ystâd y Gelli Aur, a arferai fod yn gartref i’r teulu Vaughan, ei gadael gan John Vaughan i John Campbell am nad oedd ganddo blant ei hun.

Comisiynwyd Jeffry Wyattville i gynllunio a goruchwylio’r gwaith o adeiladu tŷ newydd mawreddog gydag adain  sylweddol i’r staff a stablau gwych. Dechreuodd y gwaith ym 1827 ac fe’i cwblhawyd o fewn 7 mlynedd.

Picton Castle in Wales

Castell Pictwn, Hwlffordd

Mae hwn wedi bod yn gartref teuluol arbennig dros 700 mlynedd, ac mae’r ystafelloedd hardd yn cynnwys lleoedd tân godidog gan Syr Henry Cheere, a gweithiau celf cain, gan gynnwys y ‘Renoir Pictwn’ dadleuol.

Mae Castell Pictwn yn adeilad hynafol anarferol iawn, gan ei fod yn gastell canoloesol gwreiddiol a drawsnewidiwyd yn gartref urddasol yn y 18fed ganrif.

Treowen Historic House

Treowen, Trefynwy

“Dros y fynedfa mae sgwâr carreg gydag arfbeisiau naw gwahanol fonheddwr a chymeriadau eraill o safle uchel yn y Sir hon. Mae’r tu mewn hefyd yr un mor urddasol.

Mae grisiau dwy lath o led, gyda 72 gris, balwstradau, pyst grisiau dwy droedfedd ar y landin, y cyfan mewn derw solet, yn dal yn berffaith, does dim grisiau tebyg iddo yn y Deyrnas Unedig.” – Charles Heath 1787.

Diwrnodau allan yng Nghymru

Gall unrhyw un sydd wedi treulio amser yng Nghymru dystio pa mor wych ac urddasol yw’r wlad, ei phobl a’i threftadaeth. Os ydych am ymweld â Chymru’n fuan, gobeithio y byddwch yn neilltuo amser i ymweld â’i thai a’i gerddi hanesyddol. Gallwch weld map o’r holl leoedd gwych hyn i fwynhau diwrnod allan yng Nghymru ar y ddolen i’n map yma.

Become a Historic Houses member

Explore the nation’s heritage from just £68 per year.

Hundreds of the most beautiful historic houses, castles, and gardens across Britain offer our members free entry.

Also: receive a quarterly magazine, enjoy monthly online lectures, get exclusive invitations to buy tickets for behind-the-scenes tours, and take up a range of special offers on holidays, books, and other products you might like.

Join now
Plas Brondanw garden lodge in Wales

Supporting the future of independent heritage

Sign up for our newsletter

Read more of our stories, receive exclusive content, and find out what’s on.

You can unsubscribe at any time by clicking the link in the footer of our emails. For information about our privacy practices, please visit our privacy policy.

"*" indicates required fields

This field is for validation purposes and should be left unchanged.