Join

Amdanom Ni

Snowdonia Wales

Rydym yn cynrychioli casgliad mwyaf y Deyrnas Unedig o dai a gerddi hanesyddol sydd dan berchnogaeth annibynnol.  Rydym yma i sicrhau bod y cartrefi hanesyddol hyn yn aros yn fyw ac yn hygyrch am genedlaethau i ddod.

Mae dros 100 o dai yng Nghymru yn aelodau, llawer ohonynt â drysau agored, yn aros i gael eu harchwilio. Yn nodweddiadol, mae ein Tai Hanesyddol yn parhau i fod yn gartrefi i bobl, ac mae gan bob un ohonynt straeon hynod ddiddorol ac unigryw i’w hadrodd.

Mae’r tai hynny nad ydynt yn agor eu drysau i ymwelwyr yn rheolaidd yn aml yn croesawu pobl ar gyfer priodasau neu ddigwyddiadau. Mae gan lawer o’n tai lety ar y safle, o aros mewn ystafelloedd moethus yn y prif dŷ i glampio mewn cwt bugail sydd wedi’i drawsnewid ar y tiroedd.

Rydym yn gweithio i gefnogi’r tai hyn, gan eu cadw’n ddiogel. Rydym yn cynghori perchnogion ar unrhyw beth o damprwydd codi i gynnal gwyliau, ac rydym yn lobïo’r llywodraeth ar eu rhan. Mae ein cynghorydd polisi yng Nghymru yn ymateb i ymgyngoriadau ac yn monitro gwaith Llywodraeth Cymru ar ein rhan. Rydym yn gwobrwyo’r tai hynny sydd wedi cwblhau gwaith adfer eithriadol, sydd â gerddi gwych, ac sy’n gweithio’n ddiflino i ragori mewn arloesedd addysgol. Ac rydym yn gweithio i ymchwilio ymhellach i dai hanesyddol a’u casgliadau.

NI YW TAI HANESYDDOL YNG NGHYMRU